2016 Rhif 328 (Cy. 104)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) (“Gorchymyn 2010”).

Mae’r diwygiadau wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Mae paragraff 1 yn cyflwyno diffiniadau o “buches dan gyfyngiadau”, “gwerth achub” a “profion cyn symud”, ac yn diwygio’r diffiniadau o “anifail a amheuir” a “prawf croen”.

Mae paragraff 2 yn gwneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer storio carcas yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis neu yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis.

Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn cysylltiad ag arolygwyr milfeddygol yn cadarnhau presenoldeb clefyd a chymryd rhagofalon rhag lledaenu clefyd.

Mae paragraff 4 yn disodli hysbysiadau gwella milfeddygol â hysbysiadau gofynion milfeddygol yng Ngorchymyn 2010.

Mae paragraff 5 yn cyflwyno erthygl 11A i Orchymyn 2010, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysiadau gwella bioddiogelwch.

Mae paragraff 6 yn diwygio Gorchymyn 2010 i wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer profi anifail ar gyfer twbercwlosis.

Mae paragraff 7 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn cysylltiad â phrofion cyn symud.

Mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gymeradwyo unedau pesgi i gymryd anifeiliaid buchol sydd wedi eu symud heb eu profi neu sy’n dod o fuches dan gyfyngiadau.

Mae paragraffau 9 i 14 yn gwneud diwygiadau pellach i Ran 2 o Orchymyn 2010 mewn cysylltiad â phrofi anifeiliaid buchol a rheoli eu symud.

Mae paragraff 15 yn diwygio erthygl 26 o Orchymyn 2010 i wneud darpariaeth ychwanegol mewn cysylltiad ag iawndal am anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis.

Mae paragraff 16 yn cyflwyno Atodlen newydd i Orchymyn 2010, gan ddisodli’r Atodlen flaenorol, sy’n gwneud darpariaeth newydd ar gyfer cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2016 Rhif 328 (Cy. 104)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                 8 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Mawrth 2016

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 25, 32(2), 34(7), 83(2) ac 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981([1]).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.

Diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

2. Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010([2]) wedi ei ddiwygio yn unol â’r Atodlen.

Arbedion a throsiant

3. Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym yn parhau mewn grym.

 

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2016

                       YR ATODLEN        Erthygl 2

Diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

1. Yn erthygl 2—

(a)     yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “buches dan gyfyngiadau” (“restricted herd”) yw buches sydd o dan gyfyngiad ar symud a osodir o dan y Gorchymyn hwn;”;

“ystyr “gwerth achub” (“salvage value”) yw’r pris a delir i Weinidogion Cymru am garcas anifail buchol yr effeithiwyd arno, neu yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis;”; ac

ystyr “prawf cyn symud” (“pre-movement test”) yw prawf croen a gynhelir yn unol ag erthygl 13;”;

(b)     yn y diffiniad o “prawf croen” (“skin test”) ar ôl “sengl” mewnosoder “gan ddefnyddio twbercwlin buchol ac adarol”; ac

(c)     yn y diffiniad o “anifail a amheuir” (“suspected animal”) yn lle “anifail a fu mewn cysylltiad agos ag anifail o’r fath” rhodder “adweithydd”.

2. Yn erthygl 9(2) (hysbysu ynglŷn â chlefyd mewn carcasau) ar ôl “ar y pryd,” mewnosoder “a rhaid iddo ei ynysu, i’r graddau y bo’n ymarferol, oddi wrth anifeiliaid buchol eraill, neu famaliaid eraill a ffermir neu a gedwir fel anifeiliaid anwes”.

3. Yn erthygl 10 (ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb clefyd)—

(a)     ym mharagraff (2) ar ôl “diagnosis” mewnosoder “a pheintio, stampio, clipio, tagio neu farcio mewn ffordd arall unrhyw anifail buchol neu garcas anifail buchol”; a

(b)     ym mharagraff (3)(b) ar ôl “llaeth arall” mewnosoder “ac nad yw’n cael ei fwydo heb ei drin i loi na mamaliaid eraill”.

4. Yn erthygl 11 (hysbysiad gwella milfeddygol)—

(a)     yn y pennawd ac ym mharagraff (2) yn lle “gwella” rhodder “gofynion”;

(b)     ym mharagraff (1) yn lle “(“hysbysiad gwella milfeddygol”) (“veterinary improvement notice”)” rhodder “(“hysbysiad gofynion milfeddygol”) (“veterinary requirements notice”)”;

(c)     ar ddiwedd paragraff (2)(ch), yn lle “.” rhodder “;”;

(d)     ar ôl paragraff (2)(ch) mewnosoder—

(d) unrhyw ofyniad arall y mae arolygydd milfeddygol o’r farn resymol ei fod yn angenrheidiol at ddiben atal clefyd rhag lledaenu.”; ac

(e)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Caiff arolygydd milfeddygol bennu bod y gofynion y caniateir eu gosod drwy hysbysiad gofynion milfeddygol wedi eu gosod ar unrhyw anifail buchol a bennir yn yr hysbysiad, pa un a oes gan y fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw statws rhydd rhag twbercwlosis neu beidio.

(4) Caniateir i unrhyw ofyniad a osodir gan hysbysiad gofynion milfeddygol gael ei ddirymu neu ei ddiwygio gan arolygydd milfeddygol sy’n cyflwyno—

(a)   hysbysiad gofynion milfeddygol i geidwad anifail buchol sy’n pennu’r gofynion hynny sydd wedi eu dirymu neu eu diwygio; neu

(b)  hysbysiad (“hysbysiad dirymu gofynion milfeddygol”) (“veterinary requirements revocation notice”) sy’n dirymu hysbysiad gofynion milfeddygol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gofynion milfeddygol hwnnw.”

5. Ar ôl erthygl 11, mewnosoder—

Hysbysiad gwella bioddiogelwch

11A.—(1) Rhaid i geidwad anifail buchol gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i sicrhau bod mesurau bioddiogelwch mewn perthynas â’r mangreoedd hynny lle y cedwir yr anifail ar waith i’r graddau sy’n ofynnol yn unol ag arferion da.

(2) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwella bioddiogelwch”) (“biosecurity improvement notice”) i geidwad anifail buchol sydd—

(a)   yn datgan bod yr arolygydd milfeddygol o’r farn bod y mesurau bioddiogelwch mewn perthynas â’r mangreoedd hynny lle y cedwir yr anifail yn methu â chydymffurfio ag arferion da;

(b)  yn pennu ym mha ffordd y mae’r arolygydd milfeddygol o’r farn bod y ceidwad yn methu â chydymffurfio ag arferion da;

(c)   yn pennu’r camau y mae’r arolygydd milfeddygol o’r farn bod angen eu cymryd er mwyn cydymffurfio ag arferion da; ac

(ch) yn pennu cyfnod ar gyfer cymryd y camau hynny.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar arferion bioddiogelwch da i gynorthwyo ceidwaid anifeiliaid buchol.”

6. Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis)—

(a)     ym mharagraff (5)—

                           (i)    ar ôl “y Gorchymyn hwn,” mewnosoder “neu unrhyw gosb weinyddol a osodir ar hawliau i daliadau uniongyrchol yr UE o dan Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyllido, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin([3]),”; a

                         (ii)    ar ôl “hysbysiad prawf,” mewnosoder “neu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad rhesymol gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy ym mharagraff (2),”; a

(b)     yn lle paragraffau (6) a (7) rhodder—

(6) Caiff Gweinidogion Cymru ystyried bod anifail buchol yn anifail a amheuir pan fo’r ceidwad wedi methu â phrofi’r anifail yn unol â gofyniad hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (1).

(7) Caiff Gweinidogion Cymru ystyried bod anifail buchol (ac eithrio bual neu fyffalo) yn anifail a amheuir pan fo’r person a ddyrennir i gynnal y prawf, oherwydd ymarferoldeb, o’r farn nad yw’n ddiogel i brofi’r anifail oherwydd—

(a)   tueddfryd gwyllt neu ymosodol yr anifail, neu

(b)  diffyg cyfleusterau profi digonol.”

7. Yn erthygl 13 (profion cyn symud), ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4) Rhaid trefnu’r prawf cyn symud gyda milfeddyg cymeradwy ar draul ceidwad yr anifail buchol oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i gynnal prawf ar gyfer twbercwlosis yn unol ag erthygl 12(1) o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(a).”

8. Ar ôl erthygl 14 mewnosoder—

Unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy

14A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo—

(a)   uned besgi i gymryd anifeiliaid buchol sydd wedi eu symud heb gynnal profion cyn symud yn unol ag erthygl 13 (“uned besgi eithriedig”) (“an exempt finishing unit”); neu

(b)  uned besgi i gymryd anifeiliaid buchol sy’n dod o fuches dan gyfyngiadau (“uned besgi gymeradwy”) (“an approved  finishing unit”).

(2) Rhaid i’r gymeradwyaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) bennu—

(a)   y gweithredydd;

(b)  y fangre neu’r rhan o’r fangre lle y caniateir lleoli’r uned besgi eithriedig neu’r uned besgi gymeradwy; ac

(c)   yr amodau y mae’n rhaid i weithredydd yr uned besgi honno gydymffurfio â hwy.

(3) Rhaid i weithredydd uned besgi eithriedig neu uned besgi gymeradwy gadw anifeiliaid yn yr uned besgi, neu anifeiliaid sy’n mynd i mewn iddi, ar wahân i anifeiliaid buchol eraill sy’n bresennol mewn rhannau eraill o’r fangre lle y mae’r uned besgi honno wedi ei lleoli.

(4) Rhaid i berson beidio â honni ei fod yn gweithredu uned besgi eithriedig nac uned besgi gymeradwy oni bai bod yr uned honno wedi ei chymeradwyo o dan baragraff (1).

(5) Rhaid i berson beidio â symud anifail buchol o uned besgi eithriedig nac uned besgi gymeradwy ac eithrio—

(a)   yn uniongyrchol i’w gigydda; neu

(b)  o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.

(6) Rhaid i berson beidio â symud anifail buchol nad yw’n cael ei gadw ar wahân i anifeiliaid eraill mewn uned besgi eithriedig neu uned besgi gymeradwy neu wrth fynd i mewn iddi, fel y bo’n ofynnol gan baragraff (3) ac eithrio—

(a)   yn uniongyrchol i’w gigydda; neu

(b)  o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.

(7) Mae uned besgi yn Lloegr neu’r Alban sydd wedi ei chymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban yn y drefn honno at yr un diben ag y caniateir cymeradwyo uned besgi o dan baragraff (1)(a) hefyd yn uned besgi eithriedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(8) Mae uned besgi yn Lloegr neu’r Alban sydd wedi ei chymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban yn y drefn honno at yr un diben ag y caniateir cymeradwyo uned besgi o dan baragraff (1)(b) hefyd yn uned besgi gymeradwy at ddibenion y Gorchymyn hwn.”

9.(1)(1) Yn erthygl 15(3) (gwaharddiadau), ar ôl “anifail buchol” mewnosoder “nac unrhyw sampl a gymerwyd o unrhyw anifail o’r fath”.

(2) Ar ôl erthygl 15(4) mewnosoder—

(5) Ni chaiff unrhyw berson ymyrryd â, neu rwystro, ymchwiliad epidemiolegol.

10. Yn erthygl 16 (ynysu a gwahardd symud anifeiliaid)—

(a)     ar ôl “geidwad anifeiliaid buchol” hepgorer “a gedwir yn y cyfryw fangreoedd a bennir yn yr hysbysiad”; a

(b)     ym mharagraff (b), ar ôl “a bennir yn yr hysbysiad,” hepgorer “i’r mangreoedd hynny neu oddi arnynt,”.

11.(1)(1) Yn erthygl 18(1) (rhagofalon rhag lledaenu haint)—

(a)     ar ôl “anifail a amheuir,” mewnosoder “neu pan ganfyddir bod twbercwlosis mewn unrhyw fangre,”;

(b)     ar ôl “wneud yn ofynnol bod y ceidwad” mewnosoder “neu’r person sy’n meddiannu’r fangre (fel y bo’n briodol)”;

(c)     ar ôl is-baragraff (f), hepgorer “ac”;

(d)     ar ddiwedd is-baragraff (ff), yn lle “.” rhodder “; ac”; ac

(e)     ar ôl is-baragraff (ff) mewnosoder—

(g) yn mabwysiadu rhagofalon mewn cysylltiad â’r risg o ledaenu twbercwlosis drwy—

                       (i)  bwydo llaeth heb ei basteureiddio o fuches o dan gyfyngiadau i unrhyw loi na mamaliaid eraill;

                      (ii)  cadw llaeth o fuchesau sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan y Gorchymyn hwn ar wahân i laeth o wartheg nad ydynt o dan gyfyngiadau o’r fath.”

(2) Ar ôl erthygl 18(2) mewnosoder—

(3) Pan fo’r ceidwad yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru oedi codi’r cyfyngiadau ar symud (a osodwyd o dan erthygl 16) hyd nes bod gofynion yr hysbysiad wedi eu cyflawni er boddhad arolygydd milfeddygol.”

12. Yn erthygl 20(2) (rheoli heintio oddi wrth anifeiliaid eraill), yn lle “famal ac eithrio anifail buchol neu ddyn” rhodder “famal a ffermir ac eithrio anifail buchol, carw, camelid neu afr”.

13. Yn erthygl 21(2) (marcio anifeiliaid buchol)—

(a)     yn lle “farcio” rhodder “beintio, stampio, clipio, tagio neu farcio mewn ffordd arall”; a

(b)     ar ôl “buchol” mewnosoder “at ddiben adnabod anifeiliaid sydd wedi eu profi”.

14. Yn erthygl 23(3) (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â hysbysiadau, trwyddedau a chymeradwyaethau), ar ôl “unrhyw” mewnosoder “hysbysiad neu”.

15. Yn erthygl 26 (iawndal am anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis)—

(a)     ym mharagraff (3) yn lle ““B” gan un o’r paragraffau 3 i 6 o’r Atodlen” rhodder ““M” gan un o’r paragraffau 3 i 9 o’r Atodlen”; a

(b)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn rhesymol—

(a)   caniateir oedi talu iawndal, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch swm yr iawndal sy’n daladwy; a

(b)  caniateir gosod unrhyw symiau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru gan geidwad yr anifail buchol a gigyddir yn erbyn yr iawndal sy’n daladwy.”

16. Yn lle’r Atodlen, rhodder—

               YR ATODLEN   Erthygl 26

Cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis

Cyfrifiad

1.—(1) Mae gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis i’w gyfrifo gan ddefnyddio’r fformiwla a ganlyn—

Os SV < (M x MV) yna C = (M x MV), fel arall C = SV

Yn y fformiwla hon—

SV yw gwerth achub yr anifail;

M yw’r ffigur a ddarperir gan baragraffau 3 i 9;

MV yw gwerth yr anifail ar y farchnad, sydd i’w benderfynu yn unol â pharagraff 2; ac

C yw gwerth yr anifail at ddibenion erthygl 26, ac ni all fod yn fwy na £15,000 nac yn llai na £1.

(2) Bydd paragraffau 3 i 9 yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y Gorchymyn hwn wedi ei dorri.

Gwerth ar y farchnad

2.—(1) Er gwaethaf darpariaethau erthygl 3 o Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Penderfynu Iawndal) 1959([4]), rhaid penderfynu gwerth ar y farchnad unrhyw anifail buchol y perir ei gigydda gan Weinidogion Cymru–

(a)   gan brisiwr a benodir gan Weinidogion Cymru; neu

(b)  os methir â phenodi felly, gan brisiwr sydd â’i enw ar restr a gynhelir gan Weinidogion Cymru ac a enwebir gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gan Lywydd Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol, yn ôl fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion.

(2) Rhaid i brisiwr a benodir neu a enwebir o dan is-baragraff (1)(a) neu (1)(b) gael ei dalu gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a’r perchennog yn ysgrifenedig o’r gwerth ar y farchnad.

(3) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at brisiwr yn gyfeiriad at unigolyn, ac nid at gwmni na ffyrm nac at ddau neu ragor o bersonau ar y cyd.

(4) At ddibenion y paragraff hwn, gwerth anifail ar y farchnad yw’r pris y gellid yn rhesymol ddisgwyl bod wedi ei gael amdano gan brynwr ar y farchnad agored ar adeg y prisio, pe na bai’n anifail yr effeithiwyd arno neu’n anifail a amheuir.

Methu â chydymffurfio â hysbysiad

3.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)   unrhyw un neu ragor o’r canlynol wedi ei gyflwyno neu eu cyflwyno i geidwad anifail buchol—

                       (i)  hysbysiad o dan erthygl 10(3) (ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb clefyd);

                      (ii)  hysbysiad gofynion milfeddygol o dan erthygl 11;

                     (iii)  hysbysiad gwella bioddiogelwch o dan erthygl 11A;

                     (iv)  hysbysiad o dan erthygl 18 (rhagofalon rhag lledaenu haint);

(b)  y ceidwad yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o’r gofynion neu’r camau yn yr hysbysiad;

(c)   yr anifail wedi ei brofi o dan erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis);

(ch) yr anifail wedi ei gigydda yn dilyn y prawf hwnnw; a

(d)  y prawf wedi ei gyflawni ar y fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw (ar ôl cyflwyno’r hysbysiad i’r ceidwad).

(2) Pan fo’r ceidwad yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o’r gofynion neu’r camau—

(a)   o dan erthygl 10(3)(a), bydd “M” yn 0.5;

(b)  o dan erthygl 10(3)(b), bydd “M” yn 0.05;

(c)   o dan erthygl 10(3)(c), bydd “M” yn 0.05;

(ch) mewn hysbysiad gofynion milfeddygol—

                       (i)  am y tro cyntaf, bydd “M” yn 0.5; neu

                      (ii)  ar ôl y tro cyntaf, bydd “M” yn 0.05;

(d)  mewn hysbysiad gwella bioddiogelwch—

                       (i)  am y tro cyntaf, bydd “M” yn 0.5; neu

                      (ii)  ar ôl y tro cyntaf, bydd “M” yn 0.05;

(dd) o dan erthygl 18(1)(a) i (c), bydd “M” yn 0.75;

(e)   o dan erthygl 18(1)(ch) i (f)—

                       (i)  am y tro cyntaf, bydd “M” yn 0.5; neu

                      (ii)  ar ôl y tro cyntaf, bydd “M” yn 0.05;

(f)   o dan erthygl 18(1)(g), bydd “M” yn 0.05.

 

Methiant i brofi anifeiliaid yn unol ag erthygl 12(1)

4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)   hysbysiad o dan erthygl 12(1) (profi ar gyfer twbercwlosis) wedi ei gyflwyno i geidwad anifail buchol;

(b)  y ceidwad wedi methu â chyflawni’r prawf hwnnw erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad (y “dyddiad penodedig”);

(c)   y prawf wedi ei gyflawni ar ddyddiad diweddarach; a

(ch) yr anifail wedi ei gigydda yn dilyn y prawf.

(2) Pan fo’r prawf wedi ei gyflawni yn unol â gofynion hysbysiad o dan erthygl 12(1) ar ddyddiad diweddarach na’r dyddiad penodedig, a’r cyfnod rhwng y dyddiad penodedig a’r prawf—

(a)   yn fwy na 60 o ddiwrnodau ond nid yn fwy na 90 o ddiwrnodau, bydd “M” yn 0.5;

(b)  yn fwy na 90 o ddiwrnodau, bydd “M” yn 0.05.

(3) Pan fo’r prawf wedi ei gyflawni o dan erthygl 12(5), bydd “M” yn 0.05.

(4) Pan fo’r anifail wedi ei gigydda yn rhinwedd darpariaethau erthygl 12(6) neu 12(7), bydd “M” yn 0.05.

Unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy

5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)   gweithredydd uned besgi eithriedig neu uned besgi gymeradwy hefyd yn geidwad anifail buchol yn yr uned honno; neu

(b)  person at ddibenion erthygl 14A(4) i (6) hefyd yn geidwad anifail buchol.

(2) Pan fo—

(a)   y ceidwad yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o’r amodau neu rwymedigaethau o dan erthygl 14A;

(b)  anifail wedi ei brofi o dan erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis);

(c)   yr anifail wedi ei gigydda yn dilyn y prawf hwnnw; ac

(ch) y prawf wedi ei gyflawni ar y fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw;

bydd “M” yn 0.05.

Cigydda yn dilyn symud i fangre o dan drwydded

6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo hysbysiad o dan erthygl 16 (ynysu a gwahardd symud anifeiliaid) sy’n gwahardd symud anifeiliaid buchol i fangre, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd, wedi ei gyflwyno i geidwad anifail buchol.

(2) Pan fo—

(a)   y ceidwad yn dod ag anifail buchol o dan drwydded i’r fangre;

(b)  prawf perthnasol wedi ei gyflawni ar yr anifail hwnnw; ac

(c)   yr anifail wedi ei gigydda yn dilyn y prawf neu wedi ei gigydda o dan adran 32 o’r Ddeddf wrth ei chymhwyso i dwbercwlosis;

bydd “M” yn 0.5.

Oedi wrth symud i gigydda

7.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)   hysbysiad o’r bwriad i gigydda o dan erthygl 17 (hysbysu’r bwriad i gigydda anifeiliaid) wedi ei gyflwyno i geidwad anifail buchol;

(b)  y ceidwad yn oedi symud yr anifail i’w gigydda y tu hwnt i’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad (y “dyddiad penodedig”); ac

(c)   yr anifail wedi ei gigydda.

(2) Pan fo’r anifail wedi ei symud i’w gigydda ar ddyddiad diweddarach na’r dyddiad penodedig, a’r cyfnod rhwng y dyddiad penodedig a’r symud—

(a)   yn fwy na 0 diwrnod ond nid yn fwy na 10 diwrnod, bydd “M” yn 0.75;

(b)  yn fwy na 10 diwrnod ond nid yn fwy nag 20 o ddiwrnodau, bydd “M” yn 0.5; ac

(c)   yn fwy nag 20 o ddiwrnodau, bydd “M” yn 0.25.

Torri rhwymedigaethau

8.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceidwad anifail buchol wedi—

(a)   methu â chydymffurfio ag un neu ragor o ofynion rhesymol arolygydd neu filfeddyg cymeradwy o dan erthygl 12(2) (profi ar gyfer twbercwlosis);

(b)  torri un neu ragor o’r gwaharddiadau yn erthygl 15 (gwaharddiadau);

(c)   torri’r gofyniad neu’r gwaharddiad neu’r ddau yn erthygl 16 (ynysu a gwahardd symud anifeiliaid);

(ch) torri un neu ragor o’r gofynion yn erthygl 19(2) (anifeiliaid a amheuir mewn marchnadoedd, sioeau etc).

(2) Pan fo—

(a)   un neu ragor o is-baragraffau (1)(a) i (ch) yn gymwys;

(b)  y prawf perthnasol wedi ei gyflawni ar anifail; ac

(c)   yr anifail hwnnw wedi ei gigydda;

bydd “M” yn 0.05.

Achosion eraill

9. Pan na fo paragraffau 3 i 8 yn gymwys, bydd “M” yn 1.”

 



([1])   1981 p. 22. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([2])   O.S.  2010/1379 (Cy. 122).

([3])   OJ L Rhif 347, 20.12.2013, t. 549, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif 347, 20.12.2013, t. 865).

([4])   O.S.  1959/1335.